Carl Sargeant AC

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Llywodraeth Cymru

 

 

 

16 Gorffennaf 2015

 

Annwyl Carl

 

 

Bil yr Amgylchedd (Cymru)

 

Wedi ichi ymddangos gerbron y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar 24 Mehefin 2015, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ystyried nifer o gwestiynau na lwyddwyd i'w cyrraedd yn ystod y sesiwn ac ymateb iddynt.

 

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd yn y sesiwn, byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallech egluro rhai agweddau ar eich tystiolaeth.

 

Byddai o gymorth sylweddol i'r Pwyllgor pe gallech ddarparu ymateb cyn ichi ymddangos ger ein bron ar 16 Medi 2015. Er mwyn ein galluogi i ystyried eich ymateb, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ystyried ei ddarparu erbyn dydd Gwener 4 Medi 2015.

 

Mae'r rhestr o gwestiynau a'r pwyntiau y gofynnwn am eglurhad yn eu cylch wedi eu cynnwys mewn atodiad i'r llythyr hwn.

 

Yn gywir

 

 

 

 

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd


 

Atodiad

 

Cwestiynau na chawsant sylw ar 24 Mehefin 2015

 

Mae'r Pwyllgor yn gofyn ichi:

 

1.          Polisi Adnoddau Naturiol

a.   Esbonio pam nad yw'r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau penodol ar gyfer ymgynghori mewn cysylltiad â datblygu'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, y Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol a'r Datganiadau Ardal.

b.   Egluro pa bolisïau ac ymrwymiadau strategol yr ydych yn bwriadu eu cydgrynhoi yn y Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol.

c.   Esbonio pam nad yw'r Bil yn cynnwys gofyniad i Weinidogion Cymru ystyried adroddiad Tueddiadau Dyfodol o dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol wrth baratoi Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol.

 

2.    Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth

a.   Esbonio beth yw goblygiadau ymarferol y gofyniad ychwanegol i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol.

b.   O gofio y bydd awdurdodau cyhoeddus yn gallu cyflwyno adroddiad mewn amrywiaeth o wahanol fformatau ar y camau y maent wedi'u cymryd, egluro sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu monitro'r graddau y cydymffurfir â'r ddyletswydd.

c.   Egluro'r goblygiadau ymarferol, o ran dehongli'r ddyletswydd, yn sgil cynnwys y term ecosystem yn Adran 6(2).

d.   Esbonio'r berthynas rhwng y ddyletswydd hon ac Adrannau 9 a 10 o'r Bil hwn ar reoli adnoddau naturiol, a'r Cynllun Adfer Natur.

e.   A roddwyd unrhyw ystyriaeth i'w gwneud yn ofyniad statudol drwy'r Bil hwn i baratoi Cynllun Adfer Natur.

 

3.    Rheoli Tir a Chynlluniau Arbrofol

a.   Egluro pam mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru gael pŵer ehangach i ymrwymo i gytundebau rheoli tir gyda thirfeddianwyr.

b.   O ystyried y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â'r pŵer NRM 11 ym Mhapur Gwyn Bil yr Amgylchedd, a ydych yn fodlon bod y pŵer hwn yn ddigon cyfyngedig a phenodol, a'i fod yn caniatáu ar gyfer digon o oruchwyliaeth gan y Cynulliad.

c.   O gofio ymateb rhanddeiliaid i gynigion y Papur Gwyn ar Reolau Rhwymo Cyffredinol, esbonio pam y mae Llywodraeth Cymru'n ystyried caniatáu i Gyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio'r Bil hwn i gyflwyno cynlluniau o'r fath.

d.   A yw Llywodraeth Cymru neu Gyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal unrhyw ymgynghoriad ychwanegol gyda rhanddeiliaid ynglŷn â'r posibilrwydd o ddefnyddio Rheolau Rhwymo Cyffredinol.

e.   Esbonio pam mae'r pŵer i ymestyn cynllun arbrofol am dair blynedd ychwanegol yn angenrheidiol.

f.   Egluro pam nad yw'r weithdrefn uwchgadarnhaol yn berthnasol i reoliadau a wneir mewn cysylltiad â chynlluniau arbrofol.

g.   Egluro a fydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw geisiadau y maent yn eu cael gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddefnyddio'r pwerau hyn, neu unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny.

h.   Esbonio pam nad yw'r Bil yn nodi'r wybodaeth y byddai angen i Gyfoeth Naturiol Cymru ei darparu i Weinidogion Cymru mewn cais i ddefnyddio'r pwerau hyn.

i.    Egluro i ba gwmpas daearyddol y gallai penderfyniad i atal darpariaethau statudol dros dro fod yn berthnasol. Er enghraifft, a allai fod yn berthnasol i Gymru gyfan.

 

4.    Newid yn yr Hinsawdd

a.   Nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrifo pa gyfran o allyriadau System Masnachu Allyriadau'r UE y gellir ei phriodoli i Gymru.

b.   O ystyried pwysigrwydd credydau System Masnachu Allyriadau'r UE i allyriadau yng Nghymru, egluro pam nad oes dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyflwyno rheoliadau o dan Adran 33(2) ar yr amgylchiadau pryd y ceir credydu neu ddebydu unedau.

c.   Esbonio pam nad oes dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi terfyn ar swm net y credydau y caniateir eu tynnu o gyfrif allyriadau net Cymru o dan Adran 33(3).

d.   A roddwyd unrhyw ystyriaeth i gynnwys targed ymdrech domestig ar wyneb y Bil.

e.   Esbonio pa fath o unedau carbon y gellid pennu nad oes cyfyngiad ar eu defnyddio tuag at darged allyriadau Cymru o dan Adran 33(4) o'r Bil.

f.   Esbonio sut y mae'r gofyniad i gyflwyno adroddiad ar bolisïau i gyrraedd cyllidebau carbon o dan Adran 39 yn gysylltiedig â'r gofyniad yn adran 9(2) i'r Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol nodi'r camau y mae angen eu cymryd mewn cysylltiad â newid yn yr hinsawdd.

g.   Nodi, mewn cysylltiad ag Adran 42, o fewn pa amserlen yr ydych yn disgwyl i Weinidogion Cymru osod datganiad yn amlinellu sut y maent yn mynd i wneud iawn am unrhyw allyriadau dros ben ym mlwyddyn olaf cyllideb garbon.

h.   Esbonio pam nad oes darpariaethau mewn cysylltiad ag addasu wedi cael eu cynnwys yn y Bil.

 

5.    Bagiau Siopa

a.   Egluro a yw Gweinidogion Cymru'n bwriadu defnyddio'r darpariaethau yn y Bil i gyfeirio enillion net o'r tâl presennol a godir am fagiau siopa untro at ddibenion elusennol.

 

6.    Gwastraff

a.   Egluro a fyddai unrhyw ofynion newydd a gyflwynir o ran casglu gwastraff ar wahân yn ddarostyngedig i'r un profion ag sydd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd yn Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, sef bod angen iddynt fod yn angenrheidiol ac yn ymarferol o safbwynt technegol, amgylcheddol ac economaidd.

b.   Nodi a fyddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi codau ymarfer neu ganllawiau ar gyfer unrhyw ofynion newydd a gyflwynir.

c.   Amlinellu pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i sut y gallai'r darpariaethau effeithio ar allu cymharol busnesau o Gymru i gystadlu.

 

7.    Pysgodfeydd ar gyfer Pysgod Cregyn

a.   Cadarnhau a ydych yn credu bod yr ymadrodd ynghylch niwed sy'n debygol o ddigwydd ('likely to occur') yn ddigonol er mwyn corffori'r egwyddor ragofalus a gynhwysir yn y Gyfarwyddeb Adar a Chynefinoedd.

b.   Nodi baich y prawf y gall fod ar Weinidogion Cymru ei angen i ddangos bod niwed yn debygol o ddigwydd.

c.   Egluro a fyddai'r diffiniad o niwed ('harm') yn adran 76 yn galluogi Gweinidogion Cymru i weithredu pe byddai gorchymyn pysgodfeydd pysgod cregyn ar y cyd â ffactorau eraill yn achosi effaith negyddol cronnol i safle morol Ewropeaidd.


 

 

Egluro pwyntiau yn y dystiolaeth lafar

 

Rydych wedi ymrwymo i ddarparu nodyn ar sut y mae'r dyletswyddau i gyflwyno adroddiadau yn y Bil hwn yn gysylltiedig â'i gilydd. Byddem yn ddiolchgar am dderbyn y nodyn hwn.

A fyddech cystal ag egluro'r amserlen ar gyfer cyhoeddi adroddiad cyntaf Tueddiadau'r Dyfodol.

Dywedodd Mr Asby, yn ei dystiolaeth lafar, fod y darpariaethau yn y Bil o ran yr amserlen ar gyfer gosod cyllidebau carbon yn union yr un fath â'r darpariaethau yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 y DU [gweler Cofnod y Trafodion paragraff 221]. Fodd bynnag, maent yn ymddangos yn wahanol. Roedd yn rhaid i'r gyllideb gyntaf ar gyfer y DU gael ei gosod o fewn 18 mis i gychwyn y Ddeddf, nid o fewn dwy flynedd. Yn ogystal, roedd Deddf y DU yn ei gwneud yn ofynnol pennu'r tair cyllideb gyntaf erbyn mis Mehefin 2009, ac nid y ddwy gyntaf fel yn achos Bil yr Amgylchedd (Cymru).

Dywedodd Mr Asby fod cyfeiriad penodol yn y Bil at ddarpariaeth i ganiatáu i awdurdodau lleol gyflwyno adroddiad ar y ddyletswydd bioamrywiaeth yn rhan o'u hadroddiadau ar lesiant [paragraff 172 Cofnod y Trafodion]. Nid ydym wedi gallu dod o hyd i'r cyfeiriad hwn yn y Bil a byddem yn ddiolchgar am eglurhad.

Fe wnaethoch chi ddatgan bod yn rhaid i Gynllun Morol Cymru fod yn seiliedig ar bolisïau eraill Gweinidogion Cymru ac y byddai hyn yn darparu'r cyswllt rhwng y cynllun morol a'r datganiadau ardal a'r Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol. A fyddech cystal ag egluro lle mae hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith? Yn fwy penodol, a oes darpariaeth yn Neddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 sy'n gwneud hyn yn ofynnol? [Gweler Cofnod y Trafodion paragraff 115]

Fe wnaethoch chi ddatgan eich bod yn credu y ceir terfyn ar faint o'r gyllideb garbon y gellid ei gario ymlaen. A fyddech chi cystal ag egluro'r datganiad hwn? [Cofnod y Trafodion paragraff 223]

Fe wnaethoch chi ddatgan nad yw'r ddarpariaeth ar gasglu gwastraff ar wahân ond yn cyfeirio at wastraff masnachol. Mae adran 66 yn cyfeirio at wastraff a reolir ('controlled waste') a gesglir gan awdurdod casglu gwastraff. A fyddech chi cystal ag egluro a yw'r diffiniad o wastraff a reolir yn cynnwys gwastraff trefol a gwastraff cartrefi a gesglir gan awdurdodau lleol [Cofnod y Trafodion paragraff 316]?